Mae fan hufen ia yn stryffaglu i fyny'r allt trwy'r cenllysg. Rhed bachgen a merch ar ei hol a'i dilyn i gaddug eu dychymyg. Clywir eu lleisiau cyfareddol yn adrodd stori sy'n chwalu mur plentyndod ac yn atsian ar draws y blynyddoedd. Stori am gyfeillgarwch plant a sut y bygythir y cyfeillgarwch hwnnw yw Pijin. Dyma drasiedi rymus sydd ar adegau'n eithriadol ddoniol. Fel yn y Saesneg gwreiddiol mae'r ddwy iaith yn rhan anhepgor o wead stori am euogrwydd, am golli iaith a cholli diniweidrwydd ac am y math o gariad all oresgyn hyn i gyd.

Mae Alys Conran yn sgrifennu ffuglen, cerddi, ysgrifau creadigol a chyfieithiadau llenyddol. Cafodd ei gwaith lwyddiant yn The Bristol Short Story Prize ac yn The Manchester Fiction Prize. Gwelir ei gwaith mewn cylchgronau megis The Manchester Review, Stand Magazine a The New Welsh Reader ynghyd â chasgliadau gan The Bristol Review of Books, Parthian Books a Honno Press. Wedi astudio yng Nghaeredin a Barcelona, gorffennodd ei MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Manceinion, cyn dod adref i ogledd Cymru i ddatblygu projectau yno er cynyddu cyfle i ysgrifennu creadigol a darllen. Ar hyn o bryd y mae'n darlithio ym Mangor am Ysgrifennu Creadigol ac wedi derbyn ysgoloriaeth gan yr Arts and Humanities Research Council i ysgrifennu ei hail nofel, am ganlyniad cyfnod y Raj ar fywyd Prydeinig cyfredol.

Weitere Produkte vom selben Autor

Download
ePUB
Pigeon Alys Conran

2,09 €*
Download
ePUB
Dignity Alys Conran

3,99 €*