Theatr y Gymraes
Autor: | Sera Moore Williams |
---|---|
EAN: | 9781912905324 |
eBook Format: | ePUB |
Sprache: | metaCatalog.groups.language.options.cymraeg |
Produktart: | eBook |
Veröffentlichungsdatum: | 19.11.2020 |
Untertitel: | Byth Rhy Hwyr, Mefus, Mab |
Kategorie: | |
Schlagworte: | Cyfarwyddwrag Feminist plays Feminist theatre groups Missing child Patriarchal society Theatr cyfrwng Cymraeg Welsh-language plays Welsh-language theatre Welsh female identity Welsh women directors dramâu Cymraeg grwpiau theatr ffeminyddol |
4,79 €*
Versandkostenfrei
Die Verfügbarkeit wird nach ihrer Bestellung bei uns geprüft.
Bücher sind in der Regel innerhalb von 1-2 Werktagen abholbereit.
Yn ôl ysgolheigion ffeministaidd mae tystiolaeth bendant yngl?n â'r ffordd y mae cyfraniad menywod i ddrama, theatr a pherfformiad yn aml iawn yn cael ei hepgor, ei 'ysgrifennu allan', ei osod ar yr ymylon yn ddiwylliannol a'i wneud yn anweledig. Ac mae'n ffaith nad oes fawr o astudiaeth o hanes y theatr yng Nghymru sydd naill ai'n cydnabod neu'n cynrychioli gwaith ysgrifennu menywod ar gyfer y theatr Gymraeg. Yn y cyd-destun hwn, mae'r gyfrol arloesol hon yn ymdrech i lenwi'r bylchau a chyfoethogi'r hanes trwy ddogfennu rhai o destunau cwmni theatr Y Gymraes sydd heb eu cyhoeddi, eu gosod yn fras yng nghyd-destun theatr yng Nghymru yn y 1990au, ac ystyried hefyd rai ymatebion i'r gwaith. Yn anorfod ac yn anad dim mae'r testunau a'r cyd-destun a roddir iddynt yn cyfeirio at y profiad diwylliannol o fod yn fenyw ac yn Gymraes.
Mae Dr Sera Moore Williams wedi bod yn creu theatr fel perfformwraig a dramodydd/gyfarwyddwraig ers oddeutu 40 mlynedd. Bellach mae hi'n Uwch Ddarlithydd Theatr a Drama ym Mhrifysgol De Cymru. Mae wedi ysgrifennu ar gyfer y theatr a'r teledu ac mae 25 o'i dramâu wedi eu cynhyrchu a'u teithio'n broffesiynol. Mae nifer helaeth hefyd wedi eu cyfieithu i'r Saesneg a rhai i Almaeneg a Hwngareg. Yng Nghymru bu dwy o'r dramâu ar gwricwlwm cenedlaethol TGAU Drama yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mae un ohonynt ar gwricwlwm cenedlaethol lefel A Cymraeg ail-iaith ar hyn o bryd. Cyrhaeddodd Crash restr fer y Brian Way Award (sy'n dathlu'r ysgrifennu gorau i gynulleidfa ifanc ym Mhrydain). Mae Sera hefyd wedi cynhyrchu tua 35 o gynyrchiadau proffesiynol gan gynnwys gwaith i Brith Gof, Theatr Clwyd, Theatr Gwent, Y Gymraes, Arad Goch, Theatr Iolo, Mess up the Mess a'r Sherman. Cafodd ei chynhyrchiad o Mab i Y Gymraes ei wobrwyo fel cynhyrchiad gorau 2001 gan Gwobrau Theatr Cymru. Gellir darllen mwy am waith Sera ar http://staff.southwales.ac.uk/users/1424-smwillia/