Y Defodau
Autor: | Rebecca Roberts |
---|---|
EAN: | 9781912905652 |
eBook Format: | ePUB |
Sprache: | metaCatalog.groups.language.options.cymraeg |
Produktart: | eBook |
Veröffentlichungsdatum: | 20.07.2022 |
Kategorie: | |
Schlagworte: | Literary Fiction Mental Health North East Wales Romance Spiritual Women |
4,79 €*
Versandkostenfrei
Die Verfügbarkeit wird nach ihrer Bestellung bei uns geprüft.
Bücher sind in der Regel innerhalb von 1-2 Werktagen abholbereit.
Dyma nofel newydd gan Rebecca Roberts sy'n cydbwyso galar a llawenydd y defodau sy'n fframio stori Gwawr, gan ddangos sut mae colled yn rhan annatod o fywyd. Gweinydd yw Gwawr, sef un sy'n cynnal seremonïau enwi, priodasau ac angladdau digrefydd. Mae hi'n cynnal defodau sy'n helpu pobl i ddathlu diwrnodiau gorau eu bywydau, ac i gofio am y meirw. Mae hi'n dda wrth ei gwaith, ac yn falch o'i henw da. Ond am flynyddoedd lawer mae Gwawr wedi cuddio y tu ôl i'r ddelwedd berffaith mae hi wedi ei chreu; wedi mygu ei hiselder y tu ôl i fwgwd o barchusrwydd a phroffesiynoldeb. Pan gaiff y bai ar gam am ddifetha priodas cleient enwog aiff ei henw da yn deilchion, a does ganddi ddim byd arall i'w chynnal. Yn waeth na hynny, ymddengys bod rhywun yn gweithredu'n faleisus yn ei herbyn - yn benderfynol o'i dinistrio! Dim ond drwy ail-ymweld â chyfnod anoddaf ei bywyd y gall Gwawr ddarganfod pwy sy'n ceisio difetha ei gyrfa a'i busnes. Mae'n brofiad heriol, ydy, ond daw cefnogaeth o gyfeiriadau annisgwyl. Gyda chymorth ei chleientiaid a'i ffrindiau, dysga Gwawr wersi pwysig am natur bywyd, cariad a cholled. Ond ar ôl blynyddoedd o gadw pobl o hyd braich, a fydd caniatáu iddi ei hun fod yn fregus yn arwain at ragor o boendod a thor-calon?
Mae Rebecca Roberts wedi gweithio fel athrawes, swyddog datblygu, gweinydd dyneiddiol, a chyfieithydd. Mae hi'n byw yn Sir Ddinbych gyda'i g?r a'i dau o blant. Mae hi'n ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac yn awdures chwe nofel. Enillodd #Helynt, ei nofel gyntaf i bobl ifanc, gategori Plant a Phobl Ifanc yng Ngwobr Llyfr y Flwyddyn 2021 a Gwobr Tir na n-Óg 2021. Dyma ei nofel gyntaf gyda Gwasg Honno.